Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r fath le anghyspell. Dododd ei ddwy law ar arch ei fam, a gweddiodd mor nodedig o ddwys ac effeithiol, fel na chlybuwyd dim yn debyg yn yr holl ardaloedd. Yn wir, tystiai y Parch. E. Davies (Derfel Gadarn), Trawsfynydd, na wrandawodd efe ddim mor effeithiol a'r weddi hono yn ei holl oes. Dywedai Mr. Williams, yn nghwrs ei weddi; mai "Diwrnod mawr oedd y diwrnod hwnw, diwrnod claddu yr hon a roddodd i mi fronau i'w sugno, ïe, claddu yr hon a weddiodd lawer drosof, ac a roddodd i mi gynghorion oeddent yn werthfawrusach nag aur." Erbyn iddo ddiweddu, nid oedd yno un llygad sych yn yr holl dyrfa fawr. Clywsom henafgwr yn tystiolaethu, ei fod fel pe yn clywed swn ei weddi fyth yn ei glustiau. Gwelsom un arall oedd yn bresenol yn yr angladd, yn wylo yn hidl wrth adrodd yr hanes i ni, a hyny yn mhen deunaw mlynedd a deugain wedi i'r amgylchiad fyned heibio. Bydd genym achos i gyfeirio eto at rieni Mr. Williams yn nghorff y gwaith hwn, ac yn arbenig at ei fam, fel y gwelir y rhan amlwg a fu ganddi hi, yn. ffurfiad cymeriad ei mab hoff ac enwog, ond ymataliwn yn awr, heb ond yn unig fynegi i'w rieni gael byw, nes profi o honynt o'r llawenydd hwnw, ddarfod iddynt gael magu mab i fod yn brophwyd i'r Goruchaf, a'i weled yn myned allan o flaen wyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef, ac i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl