Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwy faddeuant o'u pechodau. Ganwyd i'r rhieni hyn saith o blant tri o feibion a phedair o ferched,—

ELLEN. Ganwyd hi yn niwedd y flwyddyn 1767, ond o herwydd pellder y ffordd, a'r hin auafol, ni chymerwyd hi i Eglwys Llanfachreth i'w bedyddio, hyd Mai 8fed, 1768. Ni bu y chwaer hon erioed yn briod. Nodweddid hi gan gryn lawer o ryw hynodrwydd mewn amryw bethau. Meddai allu a chwaeth at ddysgu barddoniaeth, a gallai adrodd y cyfryw heb ball. Darllenai lawer ar y Beibl, a gallai ddarllen yn ei hen ddyddiau heb gymhorth gwydr—ddrychau. Yn gyffredin byddai yn arfer cloi y drws arni ei hun yn y ty, neu yn hytrach, ddrws y llofft, yn Llanfachreth, i'r hon y symudodd tua diwedd ei hoes, a'r hon hefyd a roddwyd iddi yn ddiardreth gan Syr R. W. Vaughan, Nannau. Nid ydym yn deall iddi hi erioed fod yn proffesu. crefydd. Bu Ellen Williams farw yn gyflawn o ddyddiau, a chladdwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Mawrth 7fed, 1864, cyn cyrhaedd ei 97 mlwydd oed.

EDMUND. Ganwyd ef yn niwedd y flwyddyn 1768. Nis gallwn nodi dyddiad ei fedyddiad ef. Nid ydym yn deall ddarfod iddo yntau ymuno mewn proffes grefyddol âg unrhyw enwad. Wedi iddo ymsefydlu yn y byd, aeth i fyw i le o'r enw Bwlchiocyn, yn Ffestiniog, lle y mae ei fab Mr. John Williams yn aros eto. Bu Edmund Williams