Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farw Ionawr 28ain, 1853, yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Ffestiniog. Yr oedd yn ddyn tawel a siriol, yn llawn o gymwynasgarwch, ac yn hoffus gan ei gymydogion.

ROBERT. Nis gallwn nodi dydd genedigaeth, bedyddiad, nac oedran y brawd hwn pan y bu farw. Yr oedd ef yn ddyn ieuanc nodedig o grefyddol, ac yn aelod eglwysig yn Mhenystryd. Dywedir iddo gyfarfod â damwain wrth gymynu coed, ac iddo o herwydd hyny, fod yn fethiantus. dros weddill ei oes. Pan aeth swyddogion eglwys Penystryd, i edrych am dano yn ei gystudd olaf, dywedodd wrthynt, ei fod yn meddwl y gwnelai ei frawd William bregethwr, ac y byddai yn ddoethineb ynddynt hwy i ddal sylw arno, i edrych a ganfyddent hwythau ryw arwyddion ffafriol i hyny ynddo. Dyma y crybwylliad cyntaf, am ar a wyddom ni, am gyfodi William yn bregethwr. Felly i'w frawd, ag oedd yn gystuddiol ar y pryd, y rhoddwyd yn gyntaf wybod fod prophwyd i'r Arglwydd yn y teulu. Wrth weled ei hunan yn tynu tua therfyn ei yrfa ddaearol, dywedodd Robert ei fod yn gweled haf ei fywyd bron a therfynu, fel haf naturiol y flwyddyn hono, a bod blodeu ei fywyd yn syrthio fel y dail a syrthient oddiar y coed wrth y ty. Bu ef farw mewn tangnefedd heddychol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref 31ain, 1796.

MARGARET. Nis gwyddom ddim am fanylion