Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bywyd y chwaer hon, ond yn unig ei bod yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Brynygath neu Llanfachreth. Y darfodedigaeth cyflym ydoedd yr afiechyd y bu hi farw o hono, a hyny yn ieuanc. Claddwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 10fed, 1800.

CATHERINE. Ganwyd y chwaer hon, Gorphenaf 15fed, 1777. Bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 19eg, 1778. Gwelir ei bod o fewn pedwar diwrnod i fod yn flwydd oed, pan y bedyddiwyd hi; ond nid yw hyny i ryfeddu ato, gan neb a wyr ddim am y ffordd o Gwmeisian i Llanfachreth. Yr oedd y chwaer hon yn cyd-ddechreu crefydda â gwrthddrych y cofiant hwn. Bu hi yn briod gyda Robert Jones, Saer coed, yn ol ei gelfyddyd. Ymadawsant o Drawsfynydd, yn y flwyddyn 1823, gan fyned i fyw i'r Wyddgrug. Bu iddynt ddau o feibion—John a William. Gadawodd y blaenaf y wlad hon am Utica, America, lle y bu farw yn y flwyddyn 1850. Mae yr olaf eto yn fyw, ac yn trigianu yn Manchester; ac yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn nghapel Booth Street. Bu Robert Jones farw yn y Wyddgrug, rywbryd yn 1858. Fel y canlyn y dywed y Parch. W. G. Thomas, (Gwilym Gwenffrwd), Wyddgrug, am dani—"Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â Catherine Jones, chwaer Mr. Williams o'r Wern, neu fel yr adnabyddid hi yn y Wyddgrug, Catrin Jones." Pan ddaethum i'r dref