Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 1853, yr oedd hi yn byw gyda'i gwr, Robert Jones, mewn ty bychan yn yr Heol Newydd, yn agos i dafarndy o'r enw Royal Oak. Yr oedd ddau mewn oedran pan ddaethum i'r dref, ond yr oedd ef yn alluog i enill ychydig at eu cynaliaeth, drwy ddilyn ei gelfyddyd; ac yr wyf yn meddwl eu bod yn arfer a lletya saneuwyr a ddeuent i'r ffeiriau a'r marchnadoedd o'r Bala a manau eraill i werthu sanau. Gwr byr, ond cydnerth ydoedd Robert Jones, a gwisgai wallt gosod tywyll, yn neillduol ar y Sabbathau, ac ar achlysuron arbenig eraill hefyd, yr hwn ar adegau lled gyffrous ar dymher wyllt yr henafgwr, a symudai o'i le, nes y gwelid. noethder y pen yn y parth. dadorchuddiedig. Yr oedd eithafion wedi cydgyfarfod yn y pâr oedranus hwn. Tra yr oedd ef yn un sydyn, tanbaid, a ffrwydrol, yr oedd hithau yn un hynod o amyneddgar, a llwyddai yn fuan i'w liniaru yntau hefyd. Byddai hi yn un o'r rhai ffyddlonaf yn nghyfarfodydd gweddio y chwiorydd. Yr oedd ei gweddiau yn arafaidd, ond yn dra chynwysfawr ac effeithiol. Rhoddai gynghorion rhagorol i'r merched ieuainc oeddent yn aelodau o eglwys Bethel ar y pryd hwnw. Yn mhen rhyw bum' mlynedd ar ol fy nyfodiad yma, y bu farw Robert Jones, ac y mae y dygwyddiad yn fyw ar fy nghof, a hyny yn fwy, oblegid mai yn fy nhy i y derbyniodd efe yr ergyd angeuol. Daeth i ymgynghori â mi ar ryw fater cyfreithiol, a rhoddais efi eistedd mewn cadair