Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

freichiau, ac wedi ychydig o ymddyddan tawel, gwelwn ef yn ceisio cyrhaedd rhywbeth yn agos i'r lle tân, a chan yr ofnwn iddo syrthio, prysurais ato, a gwelwn ei fod wedi derbyn ergyd o'r parlys, a thrwy fy mod inau ar y pryd yn dyoddef oddiwrth anhwyldeb gewynol, yr oeddwn mewn sefyllfa resynol gan ofn a phryder. Aeth ei lais yn floesg, a'i aelodau yn ddiymadferth, a holai yn bryderus iawn am ei briod. Gadewais ef yn ngofal cymydog, ac aethum ar frys i geisio meddyg. Cludwyd ef i'w dy, a bu farw yn mhen tuag wythnos a'i "ffydd yn Nuw." Yn lled fuan wedi marwolaeth ei phriod, symudodd Catherine Jones o'r Wyddgrug, gan fyned i fyw dros weddill ei hoes at ei mab i Fanchester. Gorphenodd Catherine Jones ei gyrfa yn orfoleddus, Awst 12fed, 1864, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Nghladdfa Openshaw, Manchester. GWEN. Ganwyd hi yn 1785, a bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Hydref 20fed y flwyddyn a nodwyd. Bu hi yn briod âg un o'r enw John Jones. Yr oeddent ill dau yn proffesu crefydd, ac yn aelodau ffyddlon yn eglwys Lon Swan, Dinbych. Un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd Gwen Jones. Bu hi farw Rhagfyr 9fed, 1871, yn 86 mlwydd oed, a chladdwyd hi Rhagfyr 13eg, yn mynwent yr Eglwyswen, ger Dinbych. Wyr iddi hi yw y Parch. Robert Williams, y Tywyn, ger Abergele.

WILLIAM. Gwrthddrych ein cofiant oedd y