Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chweched plentyn, a'r ieuangaf o'r meibion. Nis gallwn nodi dydd ei enedigaeth, ond gwelwn ddarfod iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Llanfachreth, Tachwedd 18fed, 1781, gan y Parch. Evan Herbert, curad Dolgellau. Cafodd y gwr Parchedig uchod fraint ag y buasai llawer un yn llawenhau o'i phlegid, ac yn diolch am dani, a diau ei fod yntau yn teimlo felly, os yr arbedwyd ef, nes gweled fod yr hwn a gyflwynwyd ganddo i'r Arglwydd drwy fedydd, wedi dyfod yn enwog ac yn adnabyddus drwy holl Gymru.

Nis gallasai rhieni o'r fath nodwedd, ag ydoedd rhieni ein gwrthddrych, lai na bod yn ofalus am eu plant, ac yn dyner o honynt oll, ac felly yn ddiau yr oeddent, ond ymddengys fod William yn fwy hoffus ganddynt na'r un o'r plant eraill, ac yn arbenig felly gan y fam, oblegid yr ydoedd ef yn dyner ac yn anwyl iawn yn ei golwg, ac yn blentyn ei hoffder mewn modd neillduol, canys bu ef yn sugno ei bronau, nes ei fod yn agos i bedair blwydd oed. Wrth ei weled yn parhau i sugno, a'i fam yn teimlo anhawsder mawr i'w ddiddyfnu oddiwrth y fron, gwnaeth ei dad gyfamod gweithredoedd âg cf, gan addaw iddo yr oen du yn anrheg, os ymataliai efe rhag sugno, ac felly y bu. Cydsyniodd âg amodau y cyfamod, ac ni cheisiodd sugno o hyny allan; ac fel y mae pob cyfamod daionus a gedwir, yn dwyn bendith i'r sawl a'i cadwo; daeth iddo yntau ddaioni a bendith, drwy