Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadw y cyfamod hwnw, fel y ceir eto weled. Y mae yn sicr mai i Frynygath, neu Lanfachreth, y dygid ef gan ei fam ar y cyntaf i foddion cyhoeddus, oblegid yr oedd ef yn wyth mlwydd oed cyn i gapel Penystryd gael ei adeiladu. Dysgai ei fam bob gonestrwydd i'w phlant. Pan yr oedd ei hoff William o naw i ddeg oed, ac yn croesi ar draws buarth Cwmeisian Uwchaf, cododd i fyny hen lwy, yr hon oedd wedi myned yn hollol ddiwerth, ac aeth a hi adref. Wedi ei gweled, gofynodd ei fam iddo, yn mha le y cafodd efe hi? Atebodd yntau, drwy ddywedyd, mai ar lawr. Yn mha le gofynai y fam eilwaith? Nid yw hi yn dda i ddim meddai y bachgen. Ond nid oedd yr atebiad hwnw mewn un modd yn un boddhaol gan y fam onest; ac o'r diwedd, wedi iddi wasgu yn drwm arno, cyfaddefodd y bachgen mai oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf y cyfododd efe hi. Gorchymynodd hithau iddo fyned a'r llwy yn ol, ond y fath oedd ei afael ynddi, fel y dangosodd raddau o gyndynrwydd i ufuddhau i gyfraith ei fam. O'r diwedd cymerodd hi ef erbyn ei law yn dyner, ac aeth ag ef i ddanfon y llwy i'w pherchenog. Gofynodd gwraig Cwmeisian Uwchaf iddi, "I ba beth yr ydych yn trafferthu, Sian Edmund, nid yw yr hen lwy o ddim gwerth i neb, gadewch hi i'r bachgen bach." "Na, nid felly," meddai hithau, "Oblegid gall yr hen lwy hon, er mor ddiwerth ydyw, drwy adael iddo ei chadw, arwain fy machgen i'r crog-