Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/363

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyfryd, ychydig yn uwch i fyny na phentref tlws Bersham, gerllaw Wrexham. Derbyniwyd ef yn ol gan yr eglwysi fel angel Duw; ac ar y Sabbath, Hydref 27ain, wele ef eto yn llewyrchu yn mysg y rhai y bu yn goleuo o'r blaen am dros naw mlynedd ar hugain.

Gofynodd Mr. Williams i wr ieuanc ag oedd wedi dechreu pregethu dan ei weinidogaeth, a fuasai yn ddoethineb ynddo ef i bregethu oddiar yr un testun, wrth ail ddechreu yn ei hen faes, ag oedd ganddo yn destun pregeth ffarwel yn Liverpool y Sabbath blaenorol? Wedi cael atebiad cadarnhaol, felly y gwnaeth efe. Gofynodd hefyd i'r pregethwr ieuanc, yr hwn oedd yn anwyl iawn yn ei olwg, a fuasai efe yn dechreu yr oedfa iddo yn y Rhos y boreu Sabbath hwnw? Wrth gwrs, ufuddhaodd ar unwaith i'r cais, gan deimlo fod ei hen weinidog enwog yn ei anrhydeddu yn fawr wrth ofyn hyny 'ganddo. Adnabyddir y gwr ieuanc hwnw heddyw, fel yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla. Adwaenir Adwaenir y Sabbath hwnw gan eglwysi y Wern a'r Rhos, fel un hynod yn eu hanes, canys pregethodd Mr. Williams yn effeithiol tuhwnt i ddesgrifiad, a hyny er gwaethaf holl anfanteision llesgedd dirfawr. Profodd ei symudiad i hen faes ei lafur, yn foddion effeithiol i atal ychydig ar rwysg a difrod ei afiechyd, a daeth yntau i deimlo yn gryfach am enyd fechan beth bynag, nag y buasai er dechreuad ei gystudd; eto,