Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/364

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni chawsom allan i sicrwydd, ddarfod iddo allu pregethu ond un Sabbath yn unig, ar ol ei ddychweliad o Liverpool, ond bu yn nghapeli y Wern a'r Rhos mewn gwahanol gyfarfodydd amryw weithiau ar ol hyny. Cynhyrfid yr eglwysi yn ddaionus y pryd hyny gan y diwygiad crefyddol nerthol oedd wedi ymweled â'n gwlad, yr hwn a ysgubai bob peth o'i flaen yn y Wern fel mewn ardaloedd eraill yn ein Talaeth. Llawenydd mwy na chael ymweliad amlwg o eiddo Duw â'r eglwysi, nis gallasai Mr. Williams ei ddymuno. Tua diwedd mis Tachwedd y flwyddyn hono, cynaliwyd Cyfarfod Pregethu yn y Wern. Pregethwyd ynddo gan y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn; ac yr oedd rhyw nerthoedd dwyfol a grymus iawn yn cydfyned â gweinidogaeth y gwŷr enwog, ac effeithiau bendigedig yn dilyn yn nychweliad pechaduriaid at Dduw. Yr oedd Mr. Williams yn bresenol yn y cyfarfod hynod hwnw, ac fel hyn y dywedir yn ei gofiant gan Dr. W. Rees, tudalen 46ain:—"Yr oedd ei weddiau a'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar yn y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau,' meddai, 'na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bu'm yn amcanu at eich