Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac enill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O! mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr uchod ydoedd y cyfarfod olaf iddo ef ar y ddaear, a chafodd ynddo brawf ychwanegol, cyn ei symud, na ddarfu iddo lafurio yn ofer yn ngwinllan ei Arglwydd, canys bu yn llygad-dyst yn y cyfarfod hwnw o weled llawer o'i hen wrandawyr yn troi at yr Arglwydd eu Duw. Gwanychu yn barhaus yr oedd ei anwyl Elizabeth, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod tegwch ei phryd hi yn cyflym golli, a hithau yn gwywo ymaith fel glaswelltyn. Gobeithid yn gryf am ei adferiad ef, canys yr oedd yn graddol gryfhau, ond yn sydyn ar noson Rhagfyr 20, tra yn ymddyddan gyda'i anwyl gyfaill, y Parch. T. Jones, Ministerley; yr hwn a ddaethai i ymweled âg ef, dechreuodd besychu yn galed, pryd y torodd llestr gwaed (blood vessel) o'i fewn, ac y rhedodd oddi wrtho yn agos i lonaid cwpan o waed yn y fan. Yr oedd Dr. Lewis, Wrexham; meddyg y teulu, yn y ty ar y pryd ar ymweliad à Miss Williams, yr hon erbyn hyn oedd yn rhy wael i allu codi o gwbl o'i gwely. Rhoddwyd ef yn ei wely ar