Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/366

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith, a gorchymynodd y meddyg ar fod iddo ymgadw yn hollol lonydd, a pheidio symud na siarad dim a neb; ac fel y dywed Dr. Rees, "Yr oedd y dyrnod hwn yn farwol yn ei ganlyniadau." Erbyn hyn, yr oedd y tad tyner ac enwog, a'i ferch hoff ac athrylithlawn wedi eu cyd—gaethiwo yn eu gorweddfanau. Daeth Mr. Williams ychydig yn well wedi hyn, yn gymaint felly, fel y gallodd godi o'i wely a dyfod i lawr i'r ty, ond nid oedd yr olwg arno yn pelydru un llewyrch o obaith am ei adferiad. Cydgyflyment megys am y cyntaf i ben eu taith, ac arferent gydymddyddan llawer â'u gilydd am hyny, fel y prawf yr hanesyn canlynol am danynt, yr hwn a welir yn y Dysgedydd 1840, tudal. 164, "Rhoddwyd llawer o arwyddion gan Mr. Williams a'i ferch yn eu hafiechyd, yn gystal a chyn hyny, eu bod yn cael eu haddfedu yn gyflym i'r trigfanau tragwyddol yn y nef. Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod, a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. Williams pan godai y boreu yn myned at ei gwely i edrych am dani; ac un tro gofynai iddi, 'Wel, Eliza., pa fodd yr ydych chwi heddyw?' Atebai, 'Gwan iawn, fy nhad.' Ebe yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O!' meddai hithau, 'dysgwyliaf mai myfi,