ty nhad fod genych chwi waith i'w wneuthur eto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'Meddyliwyf fod fy ngwaith inau agos ar ben.' Ebe hithau, 'dysgwyliaf mai myfi a aiff gyntaf.' 'Wel,' meddai yntau, 'hwyrach mai felly y mae hi yn oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' Eb efe drachefn wrthi, 'A ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' 'Ydwyf,' meddai hithau, 'o'm calon.' 'Paham hyny?' eb efe. 'Wel,' meddai hithau, 'Mi gaf weled llawer o'm hen gydnabyddion, a chaf weled fy mam, a mwy na'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho!' meddai yntau, 'Wel, dywedwch wrthynt fy mod inau yn dyfod.' Un tro arall, pan oedd yn ymweled a'i ferch, dywedodd, 'Y mae genych gartref da, nid oes arnoch eisieu dim.' 'Nac oes,' meddai hithau; 'Ond y mae genyf gartref can' gwell, ie, can' gwell, can' gwell,'" &c., &c.
Yn nechreu mis Chwefror 1840, cynaliodd eglwys y Rhos gyfarfod pregethu. Yn mysg y rhai a bregethasent ynddo, yr oedd y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn. Teimlwyd rhyw nerthoedd rhyfedd ac ofnadwy yn y cyfarfod hwnw, ac yr oedd lluoedd "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Seion" ar ei ddiwedd. Pryderai Mr. Williams yn ddwys iawn am lwyddiant y cyfarfod dan sylw, ac anfonodd aml genadwri iddo, yn anog ei frodyr yn y weinidogaeth a'r eglwys yn y lle, i weddio yn daer am ei lwyddiant, ac hefyd dymunodd ar iddynt weddio drosto ef a'i deulu.