Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/368

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tranoeth wedi y cyfarfod, aeth y gwŷr Parchedig a enwyd i edrych am Mr. Williams. Cawsent ef wedi codi, ac yn eistedd wrth y tân yn ei ystafell—wely. Yn fuan ar ol iddynt hwy gyrhaedd y ty, daeth y Parch. William Griffith, Caergybi, a Joseph Jones, Ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled âg ef, ac fel hyn y dywedir am y cyfarfyddiad hwnw yn nghofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 48—49:—"Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon. Dilynodd pob llygad yn yr ystafell esiampl yr eiddo ef, ac wylasom yn nghyd. 'O fy mrodyr anwyl,' eb efe, mor dda yw genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr. Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe, a minau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymeryd rhan ynddi. O! fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda; rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymerodd fy nghoron oddiar fy mhen—ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o