Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/369

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond och! darfu i minau chwareu â hwynt, a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddi ger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!' 'O,' ebe un o honom, 'yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos eto.' 'Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny,' ebe yntau, ond pe y bae hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bu'm erioed.' Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn yr amser hwn; aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneud nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad, ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi ei gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fer, ymbaratoisom i ymadael, ac O! fynudau cysegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bosibl ei ddesgrifio, a dywedodd, 'Wel, feallai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y funyd hon, y bydd i ni gydgyfarfod yn y nefoedd.' Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i