ddagrau. Yr oeddynt yn rhy sobr—ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom." Yn fuan wedi hyn, yn yr un mis, pan ar ei daith yn y wlad hon, ymwelodd y Parch. B. W. Chidlaw (Dr. Chidlaw wedi hyny), o America âg ef. Dywedodd Mr. Williams wrtho gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, "Dyma fi fel hen huntsman methedig yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn. Mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. O! pe y buasai yr ysbryd hwn yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth." Erbyn hyn yr oedd ef a'i ferch anwyl yn cydaddfedu yn brysur i'r nefoedd, ac yn ol dymuniad y ddau, hi gyrhaeddodd ben yr yrfa gyntaf. Yn ei dyddiau a'i munydau olaf, cedwid hi mewn tangnefedd heddychol, canys y geiriau diweddaf a ddiferasent dros ei gwefusau oeddynt, Tangnefedd, Tangnefedd; ac ar Chwefror 21ain, 1840, yn 22ain oed, hi a aeth i dangnefedd bythol. Claddwyd hi Chwefror 26ain, yn yr un bedd a'i mam yn mynwent y Wern. Er fod Mr. Williams megys yn edrych, ac yn dysgwyl am yr alwad, yr hon oedd i gymeryd ei ferch anwyl oddi-wrtho; eto, pan y daeth, effeithiodd ei marwolaeth arno i'r fath raddau, fel y gollyngodd ei afaelion o bob peth daearol ar unwaith wedi ei cholli hi. Yr oedd i'w weled yn cyflymu ar ei hol, ac yr oedd yr holl wlad yn ofni bob moment, glywed y newydd am ei ymadawiad yntau hefyd. Yn yr adeg hon,
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/370
Gwedd