Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/371

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan yr oedd newydd orphen trefnu ei amgylchiadau bydol, galwodd ei gymydog, y Parch. J. Pearce o Wrexham i'w weled, a gofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd yntau, "Yr wyf yn awr wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach. Wedi deall nad oedd un gobaith am ei adferiad, brysiodd ei chwaer Catherine i dalu ymweliad âg ef. Cymerodd hyny le ddydd Sadwrn, Mawrth 14eg, 1840. Buom yn meddwl llawer am ei thaith o'r Wyddgrug i Bersham y dydd hwnw. Diau fod hen adgofion am gychwyniad gyrfa grefyddol ei brawd enwog a hithau, ac am helyntion y daith of hyny hyd y dydd hwnw, yn deffroi yn ei mynwes tra yr elai hi yn mlaen. Wedi iddi gyrhaeddyd i'r White House, a myned i fyny i'w ystafell-wely, cafodd ef yn eistedd mewn cadair esmwyth wrth y tân. Hunai bob yn ail a bod yn effro yn ystod y dydd hwnw. Wrth ei weled mor llesg, ac yn cyflymu ymaith mor gyflym, nis gallasai ei chwaer hoff ymatal heb golli llawer o ddagrau; a phan yr oedd hi yn wylo felly unwaith, deffrodd yntau o'i gwsg, ac edrychodd arni yn llymdreiddiol, ac erfyniodd arni ymatal rhag wylo, a sicrhaodd hi ei fod ef yn myned i wlad lle nad oes dagrau o'i mewn, ac mai buddiol fyddai iddynt hwy y dydd hwnw, ymdynghedu eu dau yn ngŵydd Duw, y byddai iddynt gyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Plygasent eu gliniau i lawr o flaen gorsedd gras, i erfyn am y nerth oedd yn angenrheidiol arnynt er