Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/372

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Yn sicr, yr oedd yr olygfa hon yn ddigon effeithiol i swyno angylion i syllu arni. Ymadawodd ei chwaer am ei chartref, gan adael ei brawd yn mhorth y nefoedd, ac ni welodd ef mwy ar y ddaear. Meddienid Mr. Williams drwy ei oes gan deimlad dwys iawn yn achos eneidiau ei gyd—ddynion, ac fel yr oedd efe yn nesau i'r nefoedd, cynyddai y teimlad hwnw yn ei fynwes. Ar un noswaith, ychydig cyn ei farwolaeth, ocheneidiai yn ddwys iawn. Wrth glywed hyny, gofynodd Mrs. Edwards, Cadwgan, yr hon a fu yn gweini yn dyner a gofalus arno ef a'i ferch yn eu cystudd, "Beth oedd yr achos ei fod yn ocheneidio felly?" Atebodd yntau drwy ddywedyd mai "achos eneidiau dynion; a oes dim a fedrech chwi wneud at achub eneidiau Mrs. Edwards?" Dywedodd hithau, "Feallai y gallwn wneud mwy pe byddwn fwy yn y goleu." "Ië, ïe," meddai yntau, "mwy yn y goleu am gwerth." Gallodd gyfodi am ychydig y Sabbath cyn ei farwolaeth, eto yr oedd yn hynod wan. Nos Lun, Mawrth 16eg, dymunodd am gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos, ac wedi eu cael ato, buont yn ymddyddan llawer â'u gilydd yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gyfarwyddiadau a chynghorion gwerthfawr iddynt at ddwyn yn mlaen achos yr Arglwydd, wedi iddo ef fyned ymaith. Buasai yn dda genym allu rhoddi yma yr ymddyddan pwysig hwnw a fu