Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/373

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngddynt, ond nis gallwn wneuthur hyny. Yn fuan wedi i'r swyddogion fyned ymaith, gwelwyd ei fod yn colli ei ymwybyddiaeth, ac felly y bu hyd naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, Mawrth 17eg, 1840, pryd y rhoddodd ei dabernacl daearol heibio, ac efe ond 59 mlwydd oed, gan fyned i mewn i dragwyddol deyrnas ei Arglwydd a'i Achubwr Iesu Grist. Ymledodd y newydd am ei farwolaeth gyda chyflymder y fellten dros wyneb yr holl Dywysogaeth. Effeithiodd yr amgylchiad mor ddwys ar lawer, nes y methasent a bwyta eu hymborth naturiol fel arferol am dalm o ddyddiau.

Dygwyddodd un peth nodedig yn hanes y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn (un o feibion Mr. Williams yn y ffydd), yn nglŷn â breuddwyd hynod o'i eiddo, yr hwn a gymerodd le bron yn gyfamserol â marwolaeth Mr. Williams; ac nis gallwn ymatal heb ei gofnodi yma, fel y ceir ef yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. 1. tudal. 100 "Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl Phillip Williams, breuddwydiodd un boreu ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y Palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y Palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad, yn mlaen atynt ac