ymaflasent yn mreichiau Mr Williams, gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddimewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r Palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, 'Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw.' Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y boreu y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.". Wrth gofio am yr anwyldeb a fodolai cydrhwng Mr. Ellis a Mr. Williams, ac am nefolrwydd eu teimladau, nid rhyfedd oedd i'r blaenaf gael y fraint mewn breuddwyd o ddanfon yr olaf, a'i weled yn myned i mewn drwy y pyrth i'r ddinas sanctaidd. Esbonier uchod fel y myner, erys y ffaith yr un. Rhaid i ninau bellach adrodd fel yr hebryngwyd corff Mr. Williams i'r bedd. Dydd Iau, Mawrth 25ain, daeth yn nghyd dyrfa anferthol mewn lluosawgrwydd, yn cynwys bob gradd o ddynion of bell ac agos i dalu eu teyrnged olaf o barch i "Dywysog Duw." Wrth y tŷ darllenodd y Parch. A. Jones, D.D., Bangor; a gweddiodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool; yna cychwynodd yr orymdaith hirfaith a galarus yn araf tua'r Wern. Wedi cyrhaedd yno, aed a'r corff i'r capel. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/374
Gwedd