Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddio gan y Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair; ac anerchwyd y gynulleidfa gan y Parchn. J. Pearce, Wrexham; M. Jones, Llanuwchllyn, a C. Jones, Dolgellau. Wrth y bedd drachefn traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. W. Rees, D.D., a T. Raffles, D.D., a diweddwyd drwy weddi gan y Parch. R. Roberts, o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygwyd y gwasanaeth angladdol yn mlaen gydag arwyddion o alar cyffredinol a dwysder mawr. Yr oedd oddeutu pymtheg ar hugain o weinidogion yn—bresenol, ac yr oeddynt oll yn alarus iawn wrth orfod troi ymaith, a gadael yr enwocaf o weinidogion yr enwad Annibynol yn Ngogledd Cymru yn ei fedd. Pregethwyd yn y Wern y noson hono gan y Parchn. J. Parry, Machynlleth; ac A. Jones, D.D., a phregethwyd pregethau angladdol iddo y Sabbath dilynol gan yr holl weinidogion oeddynt yn ei angladd, a chan lawer eraill. Pregethwyd ei bregeth angladdol y Sabbath hwnw yn y Wern a'r Rhos, gan yr anwylaf a'r enwocaf o'i gyfeillion, y Parch. W. Rees, D. D., a hyny i gynulleidfaoedd lluosog a galarus iawn oddi wrth y geiriau, 2 Sam. i 19, "O ardderchawgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfäoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!" Dylem hysbysu yma ddarfod i Eglwysi y Wern, y Rhos, a'r Tabernacl, Liverpool, gyd-ddwyn yr holl dreuliau cysylltiedig