Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/376

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r angladd eu hunain yn anrhydeddus. Gadawodd ddau fab, ac un ferch, heb dad na mam i ofalu am danynt, ac yr oedd y cymylau i ddychwelyd ar ol y gwlaw, i dduo awyrgylch deuluaidd yr hyn oedd yn weddill o'r teulu hawddgar hwn, canys pan yr oedd y mab hynaf, Mr. James Williams, yn nghapel y Rhos, nos Sabbath yn gwrando pregeth angladdol ei dad, tarawyd ef gan waew poenus yn ei goes. Boreu dranoeth aeth gyda Dr. W. Rees i gyfarfod pregethu i Lanuwchllyn, gan obeithio cael esmwythâd oddiwrth y boen, ond cynyddu yr oedd ei ofid yn barhaus, a chwyddo yn fawr yr oedd ei aelod. Dychwelodd adref, ac yn lle gwella, myned yn waeth waeth yr ydoedd. Gwelwyd arwyddion amlwg fod y darfodedigaeth wedi cymeryd meddiant sicr o hono. Bu yn nychu dan boenau llymion hyd Mawrth 31ain, 1841, pryd y rhyddhawyd ef oddiwrth ei holl ofidiau chwerwon, ac yr aeth i wlad y llawenydd tragwyddol, ac efe ond 21ain oed. Claddwyd ef yn yr un bedd a'i rieni a'i chwaer. Diau fod priddellau y dyffryn yn felus iddynt. Nodweddid bywyd Mr. James Williams gan wyleidddra prydferth a gochelgarwch mawr. Dywedodd ychydig cyn ei ymadawiad, fod ofn cael ei gyfrif fel un yn ceisio ymddangos yn y cyhoedd yr hyn nad ydoedd mewn gwirionedd, wedi ei atal lawer tro rhag mynegu yr hyn a deimlai. Yr oedd y tawelwch a'i nodweddai yn