ei fywyd, i'w weled yn amlwg ynddo yn ei oriau olaf. Ymorphwysai yn gwbl ar Grist, fel yr unig sylfaen gadarn yn awr marwolaeth. Yn mhen amser wedi hyn, ymfudodd y mab a'r ferch oeddynt eto yn fyw, ac aethant i Awstralia. Priododd Miss Williams â boneddwr o'r enw Mr. Rand yn y wlad bellenig hono. Erbyn hyn y mae hi wedi marw, ac yn sicr wedi cyfarfod ei rhieni yn y "wlad well." Ond y mae yn dda genym ddeall fod y mab ieuengaf eto yn fyw, canys fel hyn y dywed y Parch. Owen Edwards, B.A., Melbourne, mewn llythyr o'i eiddo atom, dyddiedig Mawrth 6ed, 1893, "Da iawn genyf allu anfon i chwi yr hyn a ofynasoch parthed mab yr enwog William Williams, Wern. Mae y mab er's amser yn awr wedi ychwanegu yr hen enw Wern at ei enw gwreiddiol ei hun. Yr wyf yn adnabod Mr. Williams-Wern er pan wyf yn y wlad hon. Mae ef yn arfer galw gyda mi unwaith bob blwyddyn pan y daw i lawr i Gymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn Melbourne bob mis Tachwedd. Yr oedd yma Tachwedd diweddaf, ac yn dechreu yr oedfa un boreu Sabbath, ac y mae wedi addaw pregethu yma Tachwedd nesaf. Gweithio mewn maes cenadol, dan ofal yr eglwys Bresbyteraidd y mae Mr. Williams-Wern, ac y mae ganddo chwech o leoedd pregethu, yn dwyn yr enwau Dartmoor, Strathdownie, East Strathdownie, Drik Drik, The Dairy, The Wilderness. Felly y mae