Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/383

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DILYNASOM ymdaith bywyd ein gwrthddrych Parchedig mor ffyddlawn ag y gallasem o'i gychwyniad yn Nghwmeisian Ganol, hyd ei derfyniad yn y Wern; ac ymddengys nodweddion ei gymeriad yn ei hanes yn brydferth odiaeth. Ond er i ni ddilyn pob peth mor ddyfal ag yr oedd yn bosibl, y mae genym eto i sylwi yn helaethach ar ei nodweddion arbenig fel dyn, Cristion, a phregethwr, mewn trefn i'w fywgraffiad fod yn gyflawnach. Yn ol y darluniad a roddir i ni gan Dr. Owen Thomas, [1] "Nid oedd dim nodedig iawn yn ei ymddangosiad allanol. Yr oedd, ni a dybiem, tua phum' troedfedd ac wyth modfedd o daldra; ei gorff yn lluniaidd, ac wneuthuriad cadarn, ond yn lled deneu; yn ei ieuenctyd yn wridgoch a theg yr olwg, ond er's blynyddoedd lawer wedi colli y gwrid yn gwbl o'i wynebpryd. Yr oedd ganddo dalcen lled uchel a llawn, ond nid llydan; trwyn ag ychydig bach o godiad ar ei ganol, ac yn camu ychydig at yr ochr dde; genau prydferth anghyffredin, a'r llygaid mwyaf barddonol ac awgrymiadol a welsom ni odid erioed." Gallasai yn nyddiau ei ieuenctyd ymffrostio yn ei gryfder corfforol, oblegid cyflawnodd orchestion yn yr ystyr hono, na wnaeth neb arall o blant y Cwm eu cyffelyb. O ran nodweddion ei feddwl, gwyddys ei fod yn gryf fel cawrfil, yn wrol fel llew, yn dreiddgar fel eryr, yn addfwyn

  1. Gwel Cofiant John Jones, Talysarn,