Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/384

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel oen, ac yn dyner fel mam; yn gyfiawn heb fod yn llym, yn llariaidd heb fod yn wasaidd.

Ychwaneger at yr uchod ei dduwioldeb diamheuol, ei ddoethineb amlwg, ei wybodaeth eang, a'i lais, yr hwn oedd yn anghymharol o ran ei bereidddra, yn nghyda'r eneiniad santaidd a ddisgynai arno yn ei gyflawniadau cyhoeddus, fel wrth gymeryd hyn oll i ystyriaeth, nid rhyfedd fod arbenigrwydd a swyn arosol yn perthyn i'w enw. Fel dyn, yr oedd yn gyfryw un ag y gallesid rhoddi ynddo yr ymddiriedaeth lwyraf. Casâi dwyll a ffalsder a châs cyflawn. Ceir llawer o ddynion athrylithlawn ydynt yn hollol amddifad o'r cywirdeb, y sefydlogrwydd, a'r ffyddlondeb sydd yn angenrheidiol, cyn y gall eu cydddynion roddi arnynt hyder disigl, a chyn y gallant hwythau hawlio y parch a'r edmygedd hwnw sydd yn unig yn eiddo i ddynion ffyddlawn a chywir. Yr oedd ein gwrthddrych Parchedig yn gyfoethog o'r elfenau hyny sydd yn gosod gwir werth ac urddas ar y neb sydd yn eu meddu. Nid rhyw fynach ffug santeiddiol, ond dyn a Christion hollol rydd a dirodres ydoedd efe. Methodd unwaith a chyrhaedd yn brydlon i'r Bala at ei gyhoeddiad, a phan y daeth, yr oedd arno chwant bwyd, ond gan ei bod eisoes wedi myned yn hwyr, nis gallodd aros yn nhy'r capel i orphen bwyta ei frechdan, oblegid yn y pulpud y cwblhaodd efe y gwaith hwnw. Pa ryfedd oedd i ddyn deallus