Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/385

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneud y sylw, nad oedd neb ond Iesu Grist a Mr. Williams a allasent wneud peth felly gyda good grace. Byddai hefyd yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, ac yn hollol hawdd i'w foddloni mewn aneddau cyffredin pan ar ei deithiau pregethwrol ar hyd a lled y wlad. Talodd ymweliad â Thy Newydd, Chwilog, unwaith ar awr giniaw, a hyny heb fod neb yn ei ddysgwyl. Ofnai mam yr enwog Sion Wyn o Eifion, nas gallai ei foddhau â'r ymborth oedd ganddi ar y pryd. Ymaflodd Mr. Williams mewn bowlen, a gosododd hi rhwng ei ddwylin, a dechreuodd bilio y tatws iddi yn gyflym, gan ddywedyd, "Fel hyn y byddwn i yn gwneud gartref er's talwm." Ymlidiodd ei ddull cartrefol a dirodres holl ofnau gwraig y Ty Newydd ymaith fel niwl o flaen yr awel. Byddai ambell i dro trwstan yn dygwydd weithiau yn ei hanes yntau pan ar ei deithiau. Adroddai Mr. Morgan Edmunds, Ucheldref, ger Corwen, yr hwn gyda llaw oedd yn gefnder i Mr. Williams, fel y bu ef yn cydginiawa âg ef mewn lle neillduol unwaith, a hyny rywbryd tua'r Nadolig, pryd yr oedd ar y bwrdd ŵydd wedi ei choginio. Gosodwyd ar Mr. Williams i'w thori, ond nid oedd ef yn rhyw fedrus ar waith felly, nac yn gofalu nemawr am ragori yn y gelfyddyd hono; ac oblegid hyny, nid rhyw foddlon iawn ydoedd efe i ymaflyd yn y gwaith a osodwyd arno i'w gyflawni, ond o'r diwedd ufuddhaodd. Yn anffodus, llithrodd yr ŵydd oddiar y