Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/386

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddysgl ddwy waith, a'r tro diweddaf, disgynodd ar y llawr, pryd y dywedodd Mr. Williams yn dawel ac yn hollol hunanfeddianol, "Wel, wel, mae yn debyg genyf y bydd yn rhaid i ti gael myned o'r diwedd i'r llyn." Buasai dygwyddiad o'r fath yn ddigon i achosi i lawer o ddynion golli eu hunanfeddiant, ond yr oedd ef mor ddigyffro yn nghanol y cwmni urddasol, a phe na buasai dim yn ddigrifol wedi cymeryd lle o gwbl. Ond ei ogoniant ef ydoedd, fod ei rasusau a'i rinweddau fel Cristion, yn llewyrchu yn ddysglaer nodedig yn mha dŷ bynag y byddai yn aros ynddo. Pwy a all draethu, nac ysgrifenu yn gywir, am faint y daioni a gyflawnodd efe, a'r argraff ddaionus a gynyrchodd mewn aneddau yn ein gwlad? Gweithredai cariad Crist mor gryf ar ei feddwl, fel mae ei nôd gwastadol oedd gwneuthur daioni yn ei fywyd i ddynion dros ei Arglwydd, drwy eu dwyn i undeb âg ef. Yn wir, yr oedd wedi ymgymeryd âg achos dyn, nes ei wneuthur yn achos iddo ei hunan yn mhob agwedd arno, Yr oedd yn gyfaill i werin ei wlad, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o lythyr y Parch. C. T. Thomas, Groeswen; yr hwn yn garedig a anfonwyd ganddo i ni: "Bu fy mam mewn Private School yn Wrexham; ac yn yr hon, yr un adeg a hi, yr oedd rhai o blant Mr. Williams, Wern. Y mae yn cofio yn dda weled Mr. Williams yn dyfod i'r dref, gyda llu mawr iawn o lowyr o'r Rhos a'r amgylchoedd, i gymeryd rhan mewn cyfarfod