Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/387

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwleidyddol oedd i'w gynal yn Wrexham. Areithiai yn angerddol dros ddiddymu treth yr yd, ac o blaid cael 'torth fawr, rad, ar fwrdd y dyn tlawd.' Er mai ieuanc ydoedd fy mam ar y pryd, eto, tynodd Mr. Williams gyda'i naturioldeb anghymharol ei sylw i'r fath raddau, nes y mae yn ei gofio byth, er wedi anghofio pawb arall, ag oedd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod poblog a chynhyrfus hwnw." Cymerai blaid y gwan a'r ofnus bob amser. Fel un oedd wedi ei ddysgu yn mhethau teyrnas nefoedd, gallai lefaru gair mewn pryd wrth y diffygiol, a'r hwn a fyddai ar ddarfod am dano. Hysbyswyd ni gan Mr. Owen Williams, Bethel, ddarfod i'r Parch. Benjamin Jones o Bwllheli, dori allan i wylo yn hidl mewn Cynadledd Cymanfa yn Bethel, a hyny oblegid ei fod yn ofni nad oedd efe "wedi ei alw gan Dduw at y gwaith o bregethu Crist." Cododd Mr. Williams ar ei draed, a dywedodd gyda thynerwch mam wrth y trallodus, "Gadewch rhyngddo ef a'r galw, iddo ef y perth—yn hyny, a bydded i ninau wneud ein goreu i alw pawb ato. Yr wyf fi yn penderfynu cysegru fy mywyd i'r amcan hwnw." Bu ei eiriau fel olew ar donau meddwl cythryblus Mr. Jones, a bu tawelwch mawr. Ni fynai Mr Williams ddolurio teimlad neb, yn enwedig deimlad y Cristion lleiaf, ac ar yr egwyddor hono y daeth efe allan gyntaf fel cefnogydd yr achos dirwestol, sef rhag tramgwyddo brawd gwan; ond yr oedd efe wedi cerdded