Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/388

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagddo lawer erbyn cyfarfod dirwestol Llanerchymedd, pan y dywedodd—"Nad oedd wiw i neb o honynt feddwl am gusanu y ddiod feddwol, wedi iddynt 'briodi a dirwest, ond bod dyledswydd yn galw arnynt oll i gadw eu hunain yn bur i ddirwest.'

O ran cryfder ei synwyr, ei adnabyddiaeth drwyad o'r natur ddynol, nid oedd neb yn ei oes yn rhagori ar Mr. Williams. Casglodd ei wybodaeth a'i syniadau nid yn gwbl drwy ddarllen yn barhaus, ond hefyd drwy fyfyrio a sylwi llawer ar wrthddrychau o'i gylch. Yr oedd natur iddo ef yn fath o whispering gallery yn sibrwd ei chyfrinion yn barhaus yn ei glust. Yr oedd yr haul y dydd yn traethu wrtho ymadrodd, y lloer a sêr y nos yn dangos iddo wybodaeth. Yr oedd y dyffryn a'r mynydd, y môr a'r afon, y coed a'r blodau, y gwlaw a'r gwlith, y corwynt a'r awel, y fellten a'r daran, fel pe yn datguddio iddo ef fwy o'u cyfrinach nag i neb arall o'i gydoeswyr yn y weinidogaeth. Cymerai anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, ehediaid yr awyr, pysg y môr, ac ymlusgiaid y llwch yn wrthddrychau ei astudiaeth, ac yr oedd yn sylwedydd manwl iawn ar ddynion yn eu harferion, fel mai gyda phriodoldeb y gallasai ddywedyd, "Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb." Gan mor helaeth ydoedd ei wybodaeth gyffredinol, mynych yr apelid ato am gynghorion ar bob math o faterion, ac nid yn ofer