Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/389

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwneid hyny. Ar un o'i ymweliadau â Phenlan, gerllaw Corwen, hysbyswyd ef gan Mr. H. Davies, gwr y ty, fod yn ei ardd ef bren afalau, ar yr hwn gynt y ceid cyflawnder o afalau peraidd, ond erbyn hyny oedd wedi myned yn anffrwythlon. Aethent i'w weled, a gofynodd Mr. Davies i Mr. Williams, beth oedd i'w wneuthur iddo? Atebodd yntau, "Cymerwch ebill a thyllwch ef yn agos i'w waelod hyd at ei riddyn, a llenwch y gwagle â blawd brwmstan, a seliwch ef yn ddiogel, ac ond i chwi wneuthur felly, cewch arno eto ffrwyth." Yn gwrando ar yr ymddyddan yn yr ardd, yr oedd merch fechan i Mr. Davies, yr hon heddyw a adwaenir fel Mrs. Jones, Coed moelfa, Llandrillo. Yn yr amser priodol gwnaethpwyd â'r pren fel y gorchymynodd Mr. Williams, ac yn ol tystiolaeth Mrs. Jones, cafwyd arno y flwyddyn ganlynol ffrwyth lawer. Gwelir ei fod fel Solomon, yr hwn a lefarai am brenau o'r cedrwydd yn Libanus hyd at yr isop a dyf allan o'r pared. Ond ei wybodaeth dduwinyddol oedd ardderchawgrwydd pob gwybodaeth o'i eiddo ef, yr hon a brofid ganddo yn ol safon Gair Duw. Darllenai a myfyriai weithiau awduron dysgedig, ond oddiar faesydd yr Ysgrythyrau y casglai efe ei dywysenau brasaf. Er fod rhagoriaethau Mr. Williams fel dyn, Cristion, a duwinydd, yn lluosog ac yn amlwg, eto cydnebydd pawb, mai yn y cymeriad o bregethwr dihafal yr enillodd efe enwogrwydd cenedlaethol, yr hwn a erys megys yn y graig dros byth. Ar ddechreuad