Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/390

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei weinidogaeth, yr oedd ei arddull bregethwrol yn dwyn arni ei hun, mewn gwylltineb ac arucheledd, nodau ardal ei enedigaeth, ond wedi hyny daeth i ddwyn mwy o ddelw dyffryn ceinwych Maelor, mewn prydferthwch a ffrwythlondeb. Newidiodd ei arddull bregethwrol, yn nghyda'i olygiadau duwinyddol bron yn gyfamserol, a bu orfod iddo o herwydd hyny oddef swm mawr o erledigaeth. Ond er iddo gael ei atal i bregethu mewn manau, yn wobr am ei waith yn cofleidio Calfiniaeth gymhedrol, yn gyfnewid am uchel—Galfiniaeth, eto ni throdd efe yn ol er neb na dim, ond glynodd yn ffyddlon wrth yr hyn a elwid yn "System Newydd," gan gwbl gredu fod y system hono yn fwy cyson âg efengyl Crist na'r uchel—Galfiniaeth a bregethid bron gan bawb am gyfnod wedi dyfodiad Wesleyaeth i'n Talaeth. Bu cyfodiad Mr. Williams yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru. Efe ydoedd y cyntaf o bregethwyr ei enwad i osod math o unoliaeth gyson yn nghyfansoddiad a thraddodiad ei bregethau gwerthfawr, heb wibio o'r naill beth i'r llall, yn ol arfer y tadau gynt. Yr oedd cysondeb a threfn yn nodau amlwg ar ei bregethau gorchestol. Ymdrechodd yn galed er mwyn meddu syniadau cywir am berson Crist, a'i Iawn anfeidrol, a gwaith yr Ysbryd Glan yn achubiaeth pechaduriaid. Barnai nad oedd neb yn gymhwys i bregethu yr efengyl, heb yn gyntaf geisio deall llawer am y