Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/391

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pynciau pwysig a nodwyd. Fodd bynag, yr oedd ef ei hunan wedi cyrhaedd sicrwydd deall yn nirgelwch efengyl Crist, fel yr oedd ei gwirioneddau yn wirioneddau cyson a sicr iddo ef. Gwelai hefyd gysondeb rhwng natur a'r Beibl yn eu dysgeidiaeth, heb ynddynt ddim yn gwrthwynebu eu gilydd, ond yn berffaith gyson, fel y maent yn gynyrch yr un Awdwr Hollalluog a doeth. Yr oedd efe yn athronydd gwych, yn enwedig gellid ei gyfrif felly, wrth gymeryd i ystyriaeth brinder ei fanteision addysgol; ac fel athronydd—bregethwr rhagorai ar bawb o'r cedyrn cyntaf. Rhyw egwyddor bwysig a ganfyddai efe yn ymwthio i'r golwg yn mhob testun, a byddai wrth fodd ei galon pan yn ymdrin âg egwyddorion mawrion yr efengyl. Trafodai ef y pynciau tywyllaf gyda'r fath eglurder a goleuni, nes y deallid ef gan y rhai cyfyngaf eu gwybodaeth. Pan y byddai ef ei hunan yn petruso, ac yn methu a deall yn glir yr athrawiaeth a gynwysai ei destyn, ceisiai amgyffred beth a fyddai tuedd ymarferol (practical tendency) yr athrawiaeth hono yn ei gwaith, a thrwy hyny galluogid ef i benderfynu y pwnc yn derfynol, ac i'w roddi yn oleu ac eglur yn neal y rhai a wrandawent arno. Nid cipio pethau amlwg yr efengyl allan o olwg ei wrandawyr, ond dwyn o'r dyfnderoedd ei thrysorau cuddiedig i oleuni y byddai efe. Yr oedd yr anrhydedd sydd yn eiddo i'r hwn sydd yn chwilio