Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/392

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peth allan, a'r gwynfydedigrwydd hwnw sydd yn eiddo i'r hwn sydd yn dwyn deall allan, yn eiddo arbenig iddo ef. Cymerai ei gymhariaethau allan o'r Beibl, ac oddiwrth natur, ac amgylchiadau cyffredin bywyd, y rhai oeddynt yn hollol adnabyddus i'w wrandawyr oll. Eto, ni theimlid byth y byddai yn disgyn at bethau rhy isel, ond teimlid y byddai rhyw dignity yn nodweddu yr oll o'i gyflawniadau crefyddol yn wastadol. Arferai ddywedyd mai gwaith illustration yw goleuo fel y fellten, ac yna ddiflanu allan o olwg. Yr oedd ef yn ddigyffelyb am ei allu i ddefnyddio cymhariaethau er egluro ei faterion. Gwerthfawrogai weithiau y Parch. Jacob Abbott yn fawr, yn enwedig "Y Gonglfaen," a gresynai am na cheid mwy i bregethu fel yr ysgrifenai y gwr mawr hwnw. Trwy fyfyrdod gwastadol, yr oedd ei gelloedd yn llawnion, er trefnu yn ei weinidogaeth bob rhyw luniaeth, i'r rhai a wrandawent arno. Pan y byddai yn pregethu ar yr un testynau mewn lleoedd cyfagos, nid yr un pregethau a fyddai ganddo. Rhyfeddid at gyfoethogrwydd ei feddwl, yn enwedig gan y rhai fyddent yn cael y fraint o'i wrando yn fynych. Bu yr Hybarch Thos. Hughes, Caergybi, (gynt o Fachynlleth), yn gwrando llawer ar ein gwrthddrych enwog yn pregethu, ac fel y canlyn y dywed ef am dano, "Yr oedd Mr. Williams i mi y pregethwr goreu a'r mwyaf poblogaidd a glywais erioed. Ni byddwn yn gofalu