Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/393

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwy fyddai yn d'od i'r Gymanfa, os byddai ef yno, byddwn ar ben fy nigon, a byddai miloedd eraill hefyd, canys miloedd fyddai yn d'od i'r uchelwyl yn y dyddiau hyny i wrando ar feistriaid y gynulleidfa, ac yr oedd yr anwyl Williams yn feistr ar y cwbl. Yr oedd ef yn wahanol i bob pregethwr arall a glywais erioed, ac yn y gwahaniaeth oedd rhyngddo ac eraill, y gwelid ei ragoriaethau. Wrth ei wrando ef, nid oedd angen pin ac inc, na choflyfr i roddi ei sylwadau i lawr, er gallu eu cofio. Nis gellid byth anghofio yr hyn a ddywedai efe. Ysgrifenai ei eiriau gyda'i dafod ar galon a chydwybod ei wrandawyr. Byddai yr argraff yn annileadwy, a gellid dywedyd am dano fel am Whitfield, 'Ac ysgrifenodd Duw â'i dafod.' Clywais i rai brawddegau ganddo oeddynt yn syml, ond yn nodedig o gyrhaeddgar, a phwy a fedrai eu gollwng yn anghof. Brawddegau hollol naturiol, eto yn finiog, ac mor fyw a bywyd ei hun. Yr oedd pob ystum o'i eiddo yn dweyd pan y safai yn y pulpud o flaen cynulleidfa o bobl yr oedd yn ymddangos yn hollol fel un wedi dyfod yno yn un pwrpas i drosglwyddo cenadwri bwysig dros Dduw; ac yn sicr, achub eneidiau oedd ei brif amcan yn ei holl bregethau. Clywais ddywedyd fod gwraig unwaith wedi ei hargyhoeddi wrth weled difrifoldeb yr enwog Robert Roberts o Glynog. Dywedaf finau, fy mod wedi gweled cynulleidfaoedd yn sobri wrth weled dwys ddifrifoldeb gwrthddrych eich Cofiant.