Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/394

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Mr. Williams yn fawr gan y bobl, am ei fod yn dywysog gyda Duw. Bu'm yn diolch lawer gwaith fy mod wedi cael cymaint o'i gymdeithas, er na chefais gymaint ag a hoffaswn gael, ond gwnaeth hyny a gefais o'i gymdeithas a'i gynghorion fwy o les i mi fel pregethwr, nag eiddo un dyn arall, ac nag un llyfr a ddarllenais erioed. Gofynodd i mi unwaith, beth oedd fy syniad am bregethu? a rhoddodd y cynghor hwn i mi, 'Peidiwch a dibynu ar waeddi, y mae y bobl yn sicr o flino ar hyny. Cloch y Llan ydyw gwaeddi felly, ac nid oes ar y bobl eisieu gwrando yn hir arni hi, ond siaradwch yn ddifrifol â hwynt, ac yn agos atynt.' Dyna oedd ei nodwedd ef, ac yr oedd yn fwy pregethwr bob tro y gwrandawn ef. Yr oedd yn un a garwn, ac a edmygwn a'm holl enaid, ac y mae genyf y parch dyfnaf i'w goffadwriaeth. Bum heibio y Wern lawer gwaith ar ol ei gladdu, ond ni bum erioed heibio heb droi i ollwng deigryn ar fedd 'gwr Duw.' Y tro diweddaf y bum heibio, yr oedd tua throedfedd o eira ar ei fedd, a gofynais i hen wr oedd gerllaw, a wnai efe glirio yr eira, er mwyn i mi gael darllen yr ysgrifen sydd ar y gareg, er fy mod wedi ei darllen lawer gwaith o'r blaen, ond cododd y darlleniad y tro hwnw y fath hiraeth ynof am dano, fel yr wylais wrth fyned yn mlaen am fwy na dwy filldir o ffordd. O na chawn eto glywed ei lais, fel y clywais ef gynt; ond o ran hyny, ofer dymuno y fath beth, er hyny, hyderaf