ei weled mewn gwlad well. Cyfoded yr Arglwydd fwy o rai tebyg iddo i lanw pulpud yr Annibynwyr, a phulpudau yr holl enwadau."
Ychwanegwn yma adgofion yr Hybarch William Roberts o Benybontfawr, drwy ba rai y galluogir ni i weled yn gliriach rai o nodweddion ein gwrthddrych:—
"Yr oeddwn yn adwaen y Parchedig William Williams, Wern, yn dda. Clywais ef yn pregethu laweroedd o weithiau, teimlais yn ddwys lawer tro dan ei weinidogaeth rymus, ac erys llawer o'r hyn a ddywedodd yn fy nghlyw, yn ddwfn yn fy nghof hyd y dydd hwn. Mewn Cymanfa yn Dinas Mawddwy y gwelais ac y clywais ef gyntaf. Nid oeddwn ar y pryd ond ieuanc—o saith i naw mlwydd oed. Yr oeddwn i a dau neu dri o'm cyfoedion, adeg yr oedfa y pregethai efe, yn eistedd ar gainc coeden a ymdaflai uwchben yr esgynlawr lle y pregethid yn y Gymanfa hono. Wedi i Mr. Jones, Treffynon, bregethu o'i flaen, cyfododd Mr. Williams, a darllenodd yn destun, Rhuf. v. 21, 'Fel megys y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.' Er mor ieuanc oeddwn, yr wyf yn cofio ei ragymadrodd mor dda a phe buaswn wedi ei glywed neithiwr. Dywedai—Tri brenin a fu yn teyrnasu yn ein byd ni erioed, brenin diniweidrwydd, brenin pechod, a brenin gras. Nid hir y bu brenin