Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/396

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diniweidrwydd ar yr orsedd, na chododd brenin pechod i'w ddiorseddu; wedi hyn, fe gododd brenin gras i fyny i ddiorseddu brenin pechod, 'Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwydddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.' Am y bregeth nid wyf yn cofio dim o honi, ond yn unig ei bod yn cario dylanwad rhyfedd ar y gynulleidfa fawr oedd yno yn gwrando. Mewn Cymanfa arall yn y Dinas ar ol hyn y clywais ef yr ail waith yn pregethu. Pregethai Mr. Owen, Bwlchnewydd, o'i flaen ar y geiriau, Os pan oeddym yn elynion y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer wedi ein heddychu y'n hachubir trwy ei fywyd ef.' Yna Mr. Williams ar ei ol ar y geiriau, 'A hefyd fy ngelynion hyny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron.' Cosbedigaeth yr annuwiol oedd ei bwnc y tro hwnw. Dywedai mai nid oddiar hoffder i boeni ei elynion, yr oedd Duw yn eu cosbi, ond yr amcan mewn golwg yw gosod ofn ar feddyliau holl ddeiliaid moesol ei lywodraeth rhag pechu yn ei erbyn. Yr oedd Cymanfa i gael ei chynal yn Llanidloes, ac yr oedd Mr. Williams i fyned yno. Gwybum i a chyfaill i mi hyny, a phenderfynasom ein dau, er yn fechgyn ieuainc iawn, ac heb fod yn aelodau eglwysig ar y pryd, i ysgrifenu llythyr at Mr. Williams, Wern, yn enw Mr. Richard Evans,