Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/397

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o ddiaconiaid ffyddlon yr eglwys, i ofyn iddo a fyddai efe mor garedig a rhoddi ei wasanaeth iddynt hwy yn y Dinas y Sabbath canlynol i Gymanfa Llanidloes. Ysgrifenwyd y llythyr, a phostiwyd ef, ond ni feddyliwyd am dalu y postage. Daeth yr atebiad at Mr. Richard Evans yn ddioedi, yn dweyd nas gallai ddyfod, am fod yn rhaid iddo ddychwelyd adref, a hyny oblegid fod cymundeb i'w weinyddu yn ei eglwysi y Sabbath hwnw, ond y rhoddai oedfa ganol dydd ddydd Gwener yn y Dinas wrth ddychwelyd, os ewyllysient ei chael. Cwynai hefyd o herwydd fod postage y llythyr heb ei dalu. Synai a rhyfeddai Mr. Richard Evans uwchben y llythyr, a methai a deall y dirgelwch, ond llawenychai yn fawr yr un pryd i gael cyhoeddiad Mr. Williams. Cafodd allan ryw dro mai nyni ein dau oedd wedi anfon, a gofynai, 'Paham na buasech yn talu y postage?' 'Pa faint ydoedd,' ebe'm ninau. 'Pedair ceiniog,' ebai yntau. Talasom hwy yn y fan. Daeth Mr. Williams at ei gyhoeddiad, a phregethodd ar Salm 1xxviii. 4—7, 'Rhwymedigaeth rhieni at eu plant.' Cofus genyf fy mod yn dywedyd yn fy meddwl wrth ei wrando, 'Wel, wel, nid oes ganddo ddim i ni eto, er i ni ysgrifenu ato i'w gael ef yma.' 'Cyn terfynu,' meddai Mr. Williams, 'mae genyf air i'w ddweyd wrth ddau ddosbarth, y cyntaf yw plant rhieni digrefydd. Dywedir wrthym weithiau mewn ambell dŷ, 'A wnewch