Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/398

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi roddi cynghor i'r bachgen yma, Mr. Williams, mae efe yn troi yn fachgen drwg ac anufudd i ni?' 'A wnei di ddim ufuddhau i dy fam?' Bu cyfnod ar dy fywyd di, pe buasid yn dy roddi i orwedd yn nghanol ymborth, y buasit yn marw o newyn cyn y buasit yn gallu rhoddi un tamaid of hono yn dy enau, ond fe ofalodd dy fam am dy borthi di yn llawen y pryd hwnw; ac er hyn, anufudd wyt ti iddi, a wnei di ddim ufuddhau i dy fam? Bu cyfnod ar dy fodolaeth, pe y buasid yn dy roddi i orwedd ar ddillad, buasit yn rhynu i farwolaeth cyn y buasit ti yn gallu gwisgo am danat, ond fe ofalodd dy fam am dy wisgo di hyd at glydwch y pryd hwnw, ai anufuddhau a wnei di yn ad-daliad i dy fam am ei charedigrwydd i ti?' Cofiaf byth y teimladau yr oeddwn danynt wrth ei wrando yr adeg hono, wylwn yn chwerw dost. Pregethai un tro mewn cyfarfod blynyddol yn y Dinas ar Daniel xii. 2. 'A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.' Traethai am yr adgyfodiad, a sefyllfa ddyfodol, yn y bregeth hono, a cherddai rhyw ddylanwad rhyfeddol drwy y gynulleidfa, nes bod y bobl fel pe bron gwallgofi, ac yntau yn y ffenestr lle y safai i bregethu, a rhyw olwg goruwchddynol Yr oedd yn yr oedfa ddyn oedd yn byw gyda dwy chwaer iddo mewn fferm ar brydles yn ymyl Mallwyd, ac oes y brawd hwn oedd hyd y