Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/399

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brydles; ac wedi hyny yr oedd yn terfynu. Dychrynodd y dyn hwnw gymaint dan y bregeth, fel y bu yn glaf iawn yn ei wely am rai dyddiau, ac ofnid mai marw a wnelai y pryd hwnw, ond arbedwyd ef am ryw ysbaid wed'yn. Bob tro ar ol hyn y clywai y ddwy chwaer fod cyhoeddiad Mr. Williams, Wern, yn y Dinas, dywedent mewn ysbryd sarug nodedig, 'O! y fo yr hen—sydd yn d'od eto drwy y wlad; bu agos iddo a thori ein lease ni pan oedd ffordd yma ryw dro o'r blaen.' Clywais ef yn pregethu y bregeth hono flynyddau ar ol hyny mewn Cymanfa yn Aberystwyth. Mewn cyfarfod pregethu perthynol i'r Ysgolion Sabbathol yn Bethel, Llandderfel, clywais ef yn pregethu ar Salm cii. 13, 14. Pregethai Mr. Jones o'r Waen, Llanidloes (a Phenmain ar ol hyny), o'i flaen y noson gyntaf. Pan oedd Mr. Jones yn pregethu, yr oedd drws y pulpud yn agored, a llwyddodd ci y Ty Uchaf i fyned i fewn i'r pulpud at y ddau bregethwr, a chyfodai ei ddau droed blaen, gan eu gosod ar astell y pulpud, er digrifwch neillduol i'r gynulleidfa, ond er dyryswch mawr i'r pregethwr. Gwenodd Mr. Williams yn siriol, ac ymaflodd yn ngwar y ci, a dywedodd, 'Wel, aros di, nid dy le di ydyw y fan hon beth bynag, dos di allan;' ac allan y cafodd fyned, nid yn unig o'r pulpud, ond o'r capel hefyd, gan gofio yr Ysgrythyr sydd yn dweyd mai oddi allan y mae y cŵn i fod. Yr oedd Mr. Williams ryw dro yn croesi mynydd, ond nid oedd yn gwybod y ffordd