Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/400

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agosaf i fyned i'r man y cyrchai ato. Cyfarfu â bugail, a gofynodd iddo, 'Sut yr äf fi agosaf i'r fan a'r fan?' Edrychodd y bugail yn ei wyneb, a gofynodd iddo cyn ateb ei ofyniad, Pwy ydych chwi?' Nid oedd Mr. Williams yn hoffi ei ofyniad, a gofynodd eilwaith, Pa fodd yr äf fi agosaf i'r fan a'r fan?' 'O ba le yr ydych yn dyfod,' meddai y bugail? Waeth o ba le yr wyf fi yn dyfod, pa fodd yr af fi yno yw y pwys.' 'O!' ebe y bugail, 'os nad gwaeth o ba le yr ydych yn dyfod, ni waeth i ba le yr eloch chwaith.' Chwarddodd Mr. Williams yn iachus, er wedi ei orchfygu gan y bugail, a chyfeiriwyd ef i'r man yr ydoedd efe yn myned iddo yn gywir. Adroddai y diweddar Barch. John Lewis (M.C.), Llanrhaiadr Mochnant, yr hwn oedd yn enedigol o'r Rhos, yr hanesyn canlynol wrthyf: 'Un tro,' meddai, 'ar adeg o eira mawr, yr oeddym fel plant y Rhos, yn mobio ein gilydd âg eira, pryd y daeth Mr. Williams, Wern, heibio i ni ar ei farch wrth ddychwelyd o'i daith bregethwrol. Canfu fi yn gwasgu eira yn fy nwylaw rhwng fy ngliniau i galedu y belen. 'O, Jack, Jack,' ebai efe, 'Paid a gwneud fel yna fy machgen i,' ac ar hyn, disgynodd oddiar ei farch, ac ymwasgodd yr holl blant o'i gylch, canys yr oedd y naill a'r llall yn hynod hoff o'u gilydd. Cododd Mr. Williams lonaid ei law o eira rhydd, a thaflodd ef i gyfeiriad rhai o honom, gan ofyn, 'A wnewch chwi wneud fel yna fy mhlant i?' 'Gwnawn Mr. Williams' oedd