Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/401

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ateb unol. Yna taflodd y ffrwyn ar ei fraich, a cherddodd yn mlaen, gan arwain yr anifail. Dechreuodd y plant godi yr eira yn rhydd, gan ei daflu at Mr. Williams. Codai yntau cape ei fantell i gadw ei war rhag i'r eira fyned iddo. Rhedai y bobl i ddrysau eu tai, gan waeddi, 'Welwch chwi y plant mewn difri, yn lluchio Mr Williams âg eira.' Wedi iddynt flino, aethent ato, a dechreuasant ei lanhau oddi wrth yr eira, a chanmolai yntau hwynt, gan ofyn iddynt, 'Chwi a wnewch fel yna a'ch gilydd, oni wnewch?' 'Gwnawn Mr. Williams.' 'O, da blant, plant yn iawn ydych chwi wedi y cwbl.' Un o hoffus bynciau Mr. Williams i bregethu arnynt oedd dyledswyddau rhieni at eu plant. Y tro cyntaf i mi fod yn Llundain, yr oedd yno yr un pryd amrai weinidogion o Gymru, yn casglu at yr amcan daionus o chwyddo y drysorfa er talu dyledion addoldai Annibynol Cymru. Yr oedd Mr. Williams yn un o'r casglwyr. Aethum i wrando arno yn pregethu un boreu Sabbath i'r Boro', a'i destun yno oedd, Diarhebion xxxi. 1—2, 'Geiriau Lemuel frenhin, y brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Pa beth fy mab? pa beth mab fy nghroth? Ie, pa beth mab fy addunedau?' 'Pregeth y mamau' ydoedd y bregeth hono. Tybiai mai Solomon ei hun oedd y Lemuel hwn, ac mai enw o hoffder oedd Lemuel, a roddai ei fam arno, fel y gwneir eto gan lawer o rieni. Flynyddau ar ol hyn, yr