Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/402

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddwn mewn cyfarfod urddiad gweinidog yn Salem, ger Aberystwyth; ac mewn ymddyddan â'n gilydd fel gweinidogion rhwng yr oedfaon, crybwyllai Mr. Saunders, Aberystwyth, am ymweliad Mr. Williams â Llundain y waith hono. Soniai am dano yn pregethu 'Pregeth y mamau,' yn Saesonaeg, yn nghapel eang Dr. Fletcher o Stepney. Yr oedd amrai o'r gweinidogion Cymreig wedi myned gydag ef i'r oedfa, ac yn eu plith Mr. Saunders. Yn y vestry o flaen y bregeth dywedodd Mr. Williams, 'We may as well go and commence the meeting.' 'O, no Mr. Williams, it is too soon yet,' ebai y gweinidog enwog. 'Very well,' ebai yntau. Yna ymaflodd yn ymylon gown du y Dr., yr hwn oedd am dano ef yn awr, gan ddywedyd—‘Beth pe bai Rebeccah yn fy ngweled i yn y gown du yma, beth a ddywedai hi wrthyf tybed.' 'Synais,' meddai Mr. Saunders, glywed y dyn yn son am ei Rebeccah mewn lle o'r fath, a hyny pan ar fyned i bregethu Saesonaeg i'r fath gynulleidfa.' Teg yw hysbysu na wyddai Mr. Saunders ddim am deimladau gwr at ei wraig, oblegid ni bu efe erioed yn briod. Fodd bynag, dangosodd Mr. Williams hunanfeddiant anghyffredin yn yr amgylchiad. O'r diwedd dywedodd Dr. Fletcher, 'We shall now go if you please, Mr. Williams, the time is up,' ac i mewn yr aethpwyd, lle yr oedd cynulleidfa fawr, gyfoethog, a respectable, wedi ymgynull yn nghyd. Dywedai