Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/403

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Saunders na welodd efe erioed y fath wylo cyffredinol mewn pregeth ag a welodd y tro hwnw. Yr oedd cadachau llogellau y boneddigesau a'r boneddigion yn wlybion gan ddagrau. Gwnaeth lawer o blunders yn yr iaith, ond yr oedd y nerth a'r dylanwad y fath, fel nad oedd yno neb yn meddwl am y camsyniadau, ond pawb yn synu ac yn rhyfeddu at ardderchawgrwydd y pethau a draddodai. Clywais ef yn pregethu ar y geiriau, 'Ac anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau ni.' Ni ysgrifenais hodiadau o'r bregeth hon, ond yr wyf yn cofio yn dda y modd y dosranai ei bwnc:—

I. Iawn yn ei berthynas â llywodraeth Duw.
II. Iawn yn ei berthynas âg arfaeth a gras Duw.
III. Iawn yn ei berthynas â Christ ei hun.
IV. Iawn yn ei berthynas â phechadur.

Mewn Cymanfa yn Llanuwchllyn, clywais ef yn pregethu yn yr hen ysgubor ddegwm. Yr oedd yn ddiwrnod gwlawog iawn, a gwnaed apeliad at yr 'Hen bobl' am fenthyg y capel, ond ni chaniateid hyny heb ymrwymiad pendant, na sonid gair am y System Newydd.' 'Wel,' ebai Mr. Williams, y mae hyny yn ormod o aberth, ac felly, nid oes ond i ni fyned i'r ysgubor, ac yno yr aethpwyd, a phregethodd yntau yn nodedig o effeithiol yn erbyn y pechod o rwgnachrwydd, oddiar I Cor. x. 10.

Y tro cyntaf i mi fod yn Mhenybontfawr oedd mewn Cymanfa. Yr oedd Caledfryn yno, ac yn