Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVI.

NODWEDDION ARBENIG EIN GWRTHDDRYCH FEL PREGETHWR.

Y CYNWYSIAD—Un o ragoriaethau Mr. Williams fel pregethwr Darluniad o hono gan y Parch. William Rees, D.D. Ysgrif y Parch. Owen Thomas, D.D.— Nodiadau gan y Parch. Robert Roberts, Rhos.

YN ychwanegol at yr hyn a nodir yn y benod flaenorol am ein gwrthddrych fel pregethwr, gallwn sylwi ei fod yn gallu cynyrchu effeithiau dwysion ar ei wrandawyr, heb un ymdrech ymddangosiadol i ymgyrhaedd at hyny—dim ond wrth siarad yn dawel â hwy; ac yr oedd hyny yn un o'i ragoriaethau arbenig fel pregethwr, ac yn ei wahaniaethu oddiwrth bregethwyr ei oes. Pan y gofynwyd i Raphael unwaith, pa fodd yr ydoedd efe yn gallu paentio ei ddarluniau mor ardderchog? Dywedodd "I dream dreams, and see visions, and then I paint my dreams and my visions." Breuddwydiai Mr. Williams hefyd freuddwydion, a gwelai weledigaethau, ac yr oedd yn gallu eu dangos yn ogoneddus yn yr areithfa, ond nid oedd yn gallu eu hysgrifenu ar y llen yn y fath fodd fel ag i'w dangos i'r fantais oreu, ac oblegid hyny, nid yw y pregethau a ysgrifenodd