Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/407

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef ei hunan i'r wasg, mewn un modd yn ddangosiad cywir o'r hyn oeddynt mewn arucheledd a dylanwad yn y traddodiad o honynt. Dywed Dr. W. Rees, yn ei Gofiant i Mr. Williams, fel y canlyn am dano fel pregethwr:—

"Yr ydym bellach yn dyfod at y gamp uchaf ei fywgraffiad, sef i geisio gwneuthur portreiad o'i nodwedd fel pregethwr, oblegid mai yr hyn a ddywedir am dano dan y pen hwn, yn ddiau, a fydd yn brif destun beirniadaeth. Nid ydys yn dysgwyl y gellir boddloni pawb, ond ymdrechir i wneuthur cyfiawnder hyd y gellir â'r gwrthddrych hyglod, heb ddysgwyl canmoliaeth ar un llaw, nac ofni difrïaeth ar y llaw arall. Dywed fy nghyfaill, Mr. D. Hughes o St. Sior, fel hyn:—Ystyriwyf y gwaith o dynu darlun o'r hen seraph Williams o'r Wern, y fath ag y gellir dywedyd am dano wrth yr oes a ddel, un fel yna yn gymhwys oedd efe, yn orchest—gamp fawr. Yr oedd cymaint o unigoledd a hynodrwydd yn perthyn iddo o dullwedd ei feddwl, tarawiad ei ddawn, ac eglurder ei amgyffredion, fel y gofynid gradd helaeth o chwaeth athrylithaidd i adnabod ei gywir nodwedd, ond y mae yn llawer anhaws darlunio nag adnabod unrhyw wrthddrych. Y mae yn deilwng i bawb gael tynu ei ddarlun yn ei ddillad goreu, felly yntau. yn ddiau. Ymddangosai yn hynod, ïe, yn dra rhagorol brydferth, pe byddai yn bosibl ei gywir bortreiadu ar foreu Cymanfa, fel ei gwelwyd lawer