Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/408

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaith, wedi esgyn y Rastrum o flaen rhai miloedd o wrandawyr, yn traethu ar ryw favourite topic, megys mawredd, trugaredd, cariad, neu amynedd Duw, &c., pan y byddai ei olwg, ei lais, ei loywon ddrychfeddyliau, yn nghyd â mawredd y testun, wedi caethiwo pob meddwl trwy yr holl dorf, nes berwi y teimladau, gwlychu pob grudd â dagrau, a llanw pob mynwes à syndod. Byddai picture yr hen Williams, ar ddydd Cymanfa, yn ogoniant i'r wlad a'i magodd, yn hyfrydwch i filoedd a'i clywodd, ac yn glod i'r darluniedydd.'..... Wrth wrando Williams yn pregethu, gallasech ei gyffelybu i delynor medrus, yr hwn cyn dechreu chwareu ei dôn a drinia, ac a gywreinia danau ei delyn, ac wedi cael pob tant i gywair priodol, a chwery ei fysedd ar hydddynt, nes y clywid y gyd-gerdd bereiddiaf a melusaf yn dylifo megys oddirhwng ei ddwylaw. Cymerai yntau ei destun megys y cerddor ei delyn, ac wedi pum' munyd feallai o gyweirio ei danau mewn rhagymadrodd a dosbarthiad, dechreuai chwareu arnynt, gan dywallt allan y fath beroriaeth seinber, fel os byddai rhywun o'r rhai a fyddent yno yn bresenol heb ei gynhyrfu dan ei ddylanwad, rhaid ei fod wedi cau ei glustiau, fel y neidr fyddar, rhag gwrando ar lais y rhiniwr a'r swynwr cyfarwydd hwn. Rhoddi y fath ddesgrifiad o hono ag a grybwyllai y cyfaill rhag-grybwylledig pan y safai uwchben tyrfa Cymanfa neu gyfarfod, sydd orchwyl pell uwchlaw fy ngallu i. Byddai