Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/410

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fater, ac ar ei wrandawyr; fel y byddai yn myned i mewn iddo, ac yn cynesu ynddo, dechreuai delweddau ei feddwl godi drachefn i'w wynebpryd a'i lygaid, a'r drychfeddyliau ysblenydd hyny a fuasent o'r blaen yn berwi yn ei galon, a ddechreuent ddylifo allan, gan gymeryd eu hadenydd oddiar ei wefusau, y naill ar ol y llall, nes y byddai yn fuan wedi hoelio pob clust wrth ddôr ei enau, pob llygad o'r dorfa fyddent dano wedi ei sefydlu arno, a phob meddwl wedi ei glymu wrth ei fater. Weithiau byddai yr holl gynulleidfa yn gwrando mewn dystawrwydd syn, pob un megys yn arswydo gollwng nac ochenaid nac anadliad uwch na'u gilydd allan, a phob gair o'i enau, fel y disgynai ar y glust, yn taro y deigryn dystaw allan o'r canoedd llygaid a fyddent wedi eu sefydlu arno, ac yn gwylio symudiad ei wefusau. Bryd arall, byddai ocheneidiau, gwenau, a dagrau, i'w clywed a'u gweled, y naill yn dyrchafu o'r fynwes, y lleill yn argraffedig ar y wedd, y lleill yn dylifo o'r llygaid, yn cydgymysgu â'u gilydd, fel ag y byddai holl deimladau y natur ddynol wedi eu cynhyrfu a'u galw i weithrediad gan Feistr y gynulleidfa.' Yr oedd ei lais yn hyglyw i bawb, pa mor luosog bynag fyddai y gynulleidfa, a'i dôn yn beraidd anghyffredinol, pan fyddai yn ei lawn hwyliau yn traddodi; ac ymddangosai yn myned trwy ei waith yn naturiol, esmwyth, a diboen, heb gymaint a gwlithyn o chwys ar ei wyneb. Nid trwy ymladd,