Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/411

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorchest, a gorthrech, y byddai byth yn dryllio teimladau ei wrandawyr, ond eu denu, eu henill yn esmwyth a naturiol, eu tymheru a'u toddi, yn gyffelyb i ddylanwad yr haul ar y cwyr.

Gwyddem fod y Parch. Owen Thomas, D.D., wedi cael llawer o gymdeithas Mr. Williams yn bersonol, a'i fod hefyd yn edmygwr mawr o hono, ac oblegid hyny, awyddem am y fraint o'i weled, a chael ymddyddan âg ef ar y mater. Yr oedd y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, a ninau yn dygwydd bod yn Liverpool prydnawn dydd Sadwrn, Mehefin 13eg, 1891, a galwasom yn nhŷ y gwr Parchedig. Cawsom y pregethwr enwog yn llesg a gwanaidd iawn, ond wedi codi o'i wely, ac yn eistedd yn ei lyfrgell ardderchog. Yr oedd haul ei fywyd dysglaer a defnyddiol yn nesu tua'r gorwel yr adeg hono, ond yn myned i lawr yn ogoneddus iawn yr ochr hyn, ac i godi yn ogoneddusach yn y byd lle nad ä byth i lawr mwyach. Dywedodd lawer o bethau wrthym, y rhai nas anghofir genym byth. Teimlem ein dau ei fod yn siarad megys un ar drothwy tragwyddoldeb. Cyn i ni fyned ymaith, dywedodd wrthym ni:—"Yr oedd fy mrawd John yn dweyd wrthyf, eich bod chwi yn parotoi Cofiant i Mr. Williams, Wern." Dywedasom ein bod, a gofynasom am ei ganiatad i adgyhoeddi ei ysgrif werthfawr ar Mr. Williams fel pregethwr, yr hon yn gyntaf a ymddangosodd yn Nghofiant rhagorol John Jones,