Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/412

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Talysarn. "Cewch a chroesaw," oedd ei atebiad caredig. Trwy ganiatad ychwanegol y Mri. Hughes a'i fab, Wrexham, rhoddwn yr ysgrif hono yma, yr hon a welir ar tudalen 960—964 o'r gwaith pwysig a nodwyd:—"Yr oedd Mr. Williams yn ddiddadl, yn un o brif bregethwyr ei oes.........Yr oedd oedd rhywbeth yn ei olwg yn dynodi dyn a mesur anghyffredin o chwareugarwch ynddo. Ac yr ydym yn tybied mai un felly yn arbenig ydoedd yn naturiol. Yr ydym yn darllen ei fod 'er yn blentyn, yn hynod o ran ei dymher lawen, fywiog, a chwareus; fel yr arferai ei dad ddywedyd yn aml am dano, na wyddai yn y byd pa beth i'w feddwl o hono, a'i fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant y gymydogaeth.' Dywedai ei hunan, medd Mr. Richard Parry, Llandudno, ei fod, pan yn ddyn ieuanc, yn agored i ysgafnder; ac i ryw hen wraig rywbryd ei gyfarch, ar ol ei bregeth, a dywedyd wrtho, Yr ydych yn bregethwr da, ond y mae yn rhaid i chwi roddi heibio y cellwair yna, onide ni wnewch fawr o les. Ac yn ol y diweddar Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr oedd ei ddull a'i agwedd, pan y dechreuodd bregethu, yn lled annerbyniol gan lawer......Golwg hyf, lled ysgafn, a chellweirus oedd arno pan y dechreuodd bregethu; a byddai yn dueddol i ddywedyd lluaws o ymadroddion a dueddent i yru ei wrandawyr yn ysgafn a chwerthinllyd.' Nid ydym yn amheu dim nad hyny oedd